Ennill taleb £30! Win £30 voucher

Mae cyfle i ddisgyblion Glan y Môr a Strade ennill £30 mewn talebau Picton Sports wrth gwblhau’r holiadur isod.  Dewisir un disgybl i ennill y wobr.  Y dyddiad cau  yw dydd Gwener 24 Chwefror 2012.

Pupils in Glan y Môr and Strade have the chance to win £30 in vouchers for Pictons Sports just by completing the questionnaire below.  One pupil will be selected to win the prize.  The closing date is Friday 24 February 2012.

*****Holiadur 5×60 Questionnaire*****

Efallai bydd disgyblion o Glan y Môr neu Strade yn seren fideo fel hyn yn y dyfodol!

Maybe pupils from Glan y Môr or Strade will be the star of one of these videos in the future!

Canada - Ennillwyr Cwpan gyda'i gwobrau / Cup winners with their prizes

Scroll down for English

Enillodd Canada Cwpan Cyffwrdd Cyflym cyntaf, cynhaliwyd gan Ysgol Glan y Môr. Cyrhaeddodd Canada i’r rownd derfynol gan ennill grŵp caled iawn gyda thimau megis Seland Newydd, Awstralia a De Affrica.  Wedyn, enillodd gêm agos iawn yn y rownd gynderfynol yn erbyn Ffrainc gyda sgôr yn ystod amser ychwanegol, cyn curo Ffiji, 2 – 1 yn y gêm derfynol.

Trefnwyd y twrnamaint gan 5×60, yr un cyntaf o’i fath yn Sir Gâr (a Chymru, rwy’n meddwl!) Cystadlwyd 11 tîm, gyda 6 chwaraewr yr un o flwyddyn 7 Glan y Môr. Fe aeth y ddau dîm gyda mwyaf o bwyntiau trwyddo i’r rowndiau cynderfynol.

Roedd y safon chwarae yn uchel iawn, yn enwedig gan fod neb wedi clywed na chwarae Cyffwrdd Cyflym o blaen!

Cafodd Cyffwrdd Cyflym ei greu yn Seland Newydd yn 2009 gan Touch New Zealand er mwyn chwarae rygbi dan do trwy’r flwyddyn – beth bynnag yw’r tywydd.   Mae’r gêm yn boblogaidd iawn gyda disgyblion ysgol ac oedolion yn Seland Newydd, felly gwelwn os mae’r gêm yn dal sylw yng Nghymru hefyd!

Hefyd, mae rhaid i mi ddiolch yr arweinwyr ifanc o flwyddyn 10.  Roedd eu help dyfarnu, trefnu a gweithio mas gemau a chanlyniadau yn amhrisiadwy!

Cynhalir twrnameintiau eraill a sesiynau amser cinio ac ar ôl ysgol ym mis Ionawr i’r rhai sydd eisiau parhau chwarae.

Scroll down for English

Y Timau / The Teams

Canada won the first ever Turbo Touch Cup, held by Glan y Môr School.  They reached the final by winning a very tough group containing heavy-weights such as New Zealand, Australia and South Africa.  They then defeated France in a closely contested semi-final, with a golden score in extra time, before beating Fiji, 2 – 1 in the final game.

The tournament, organised by 5×60, was the first of it’s kind for Carmarthenshire (and I believe, Wales!).  11 teams of 6 players from Glan y Mor’s year 7 contested two groups, with the top two teams from each group progressing through to the semi-finals.

The standard of play was very high, with fantastic skills on display, especially considering that the tournament was the first time any of the pupils had seen or heard of Turbo Touch!

The game is very new and was only developed in New Zealand in 2009.  It was created by Touch New Zealand in order to allow people to play indoors all year round, whatever the weather.  Turbo Touch is highly popular throughout the country with adults as well as school pupils.  Let’s see if it catches on in Wales too!

It was also thanks to a group of year 10 Sports Leaders that the tournament was such a success.  Their help with refereeing, organising teams and working out the fixtures and results was invaluable! 

Since the day was so successful, further tournaments are planned, as well as lunchtime and after school clubs for those that wish to carry on playing the game.

Turbo Touch!  Llawer o hwyl!  Lots of fun!

Turbo Touch! Llawer o hwyl! Lots of fun!

Dydd Iau 22ain o Rhagfyr / Thursday 22nd December 2012

Scroll down for English

Ar y diwrnod olaf cyn gwyliau Nadolig mae disgyblion fel arfer yn eistedd yn eu dosbarthiadau a chwarae gemau ar y cyfrifiaduron neu wylio ffilmiau – ond nid eleni!

Fe fydd disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Glan y Môr yn cystadlu gyda’i gilydd mewn twrnamaint ‘Turbo Touch’. Llawer mwy o hwyl na eistedd ar eich pen-ôl! Rhagor o wybodaeth ar Turbo Touch fan hyn.

On the last day of school before Christmas, pupils usually sit in their classes playing games on the computers or watching films – but not this year!

Pupils in Year 7 will be competing against each other in a ‘Turbo Touch’ tournament. Loads more fun than sitting on your back-side!

More of information about Turbo Touch here

Cyngor Chwaraeon Glan y Mor Sports Council

Scroll down for English

Mae Cyngor Chwaraeon Ysgol Glan y Môr wedi cyfarfod am y tro cyntaf.  Mae’r Cyngor yn rhoi llais i chwaraeon yn yr ysgol a chyfle i’r aelodau dod lan a syniadau i wella chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol eraill.

Dewiswyd dau ddisgybl o bob blwyddyn i gynrychioli eu cyfoedion ar faterion perthnasol i chwaraeon.  Gan fod dim ond 10 o ddisgyblion ar y cyngor, mae hi’n anrhydedd i gael eich dewis.  Mae’r teulu Yule wedi llwyddo cael dau gynrychiolydd ar y cyngor; Tommy o flwyddyn 8 a Kelsa, blwyddyn 10 ac maen nhw’n edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth.  Dywedodd Tommy;

Rydw i’n llawn cyffro i fod ar y Cyngor Chwaraeon oherwydd dwi’n dwli ar chwaraeon a dwi eisiau gwella pethau yn yr ysgol.

Cafodd yr eitemau canlynol eu trafod yn y cyfarfod cyntaf;

  • Amcanion y cyngor – rhoddodd disgyblion eu syniadau am ystyriaeth
  • Yr Olympaidd a mudiad Llysgenhadon Ieuainc a sut y gallant nhw gael effaith arbennig ar chwaraeon yn yr ysgol gyda digwyddiad rhyfeddol.  Trafodwyd digwyddiadau posibl, er enghraifft Relay Tortsh Olympaidd
  • Amserlen 5×60 mis Ionawr a Chwefror
Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau gwaith y Cyngor!

Cyhoeddir dyddiad y cyfarfod nesaf yn fuan.  Os oes gennych eitemau i’r Cyngor trafod, cysylltwch a Mr P Davidson (Pennaeth AG) neu Mr M Adams (Swyddog 5×60).

Cyngor Trafod Syniadau / Council Discussing Ideas

Glan y Môr’s Sports Council has met for the first time.  The Council gives sport a voice in the school with members having the opportunity to come up with ideas to improve sport and other extra-curricular activities.

Two pupils from each year group were selected to represent their peers in matters relating to sport.  Since there are only 10 pupils in the school on the council, it is quite an honour to be selected.  The Yule family, in particular is well represented; both Tommy, Year 8 and Kelsa, Year 10 are on the council and are looking forward to helping make a difference.  Tommy said;

I’m really excited to be on the Sports Council as I love Sport and I’m looking forward to making things better in the school.

The following items were discussed during the first meeting:

  • The aims of the Sport Council – pupils put forward their opinions for consideration
  • The Olympics and the Young Ambassador movement and how that can impact on sport in school with a school-based event.  Possible events, such as an Olympic Torch Relay were discussed
  • 5×60 January and February timetable
I’m looking forward to seeing the results of the Council’s work in action!

The date of the next meeting will be confirmed shortly.  Anyone wishing to submit an item for the Sports Council’s attention, can do so by either contacting Mr P Davidson (Head of PE) or Mr M Adams (5×60 Officer).